
Democratiaid Rhyddfrydol Ceredigion

Eitholiadau Seneddol
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyhoeddi y bydd Sandra Jervis ac Alistair Cameron yn arwain rhestr eu plaid ar gyfer etholaeth Ceredigion Penfro (Ceredigion a Sir Benfro) yn etholiad Senedd 2026 yn dilyn pleidlais o aelodau'r blaid yn yr etholaeth.
Mae Ceredigion Penfro yn un o dargedau pennaf y blaid yn etholiad 2026, gan gwmpasu etholaethau San Steffan, sef Ceredigion Preseli a Canolbarth a De Sir Benfro. Daeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn ail yng Ngheredigion Preseli yn Etholiad Cyffredinol 2024.